Dy orsedd oedd erioed, Dduw Ner, Cyn gwneuthur ser na moroedd; Ti wyt drag'wyddol fywiol Dduw, Er trengu pob rhyw bobloedd. Natur ac amser oll heb gudd, I'th olwg sydd yn eglur; O ffurfiad 'r wybren fry, a'r llawr, Hyd y dydd mawr eu llosgir. Blynyddoedd trag'wyddoldeb sy 'N bresenol i ti beunydd; 'Does dim yn hen i'th olwgfaith, Fod mawr, na dim yn newydd. Rhoed nef a daear fyth in' Iôn, Anrhydedd cyson siriol; Addoliad dwys, gwasanaeth glân, A hyfryd gân drag'wyddol.Casgliad E Griffiths 1855 [Mesur: MS 8787] gwelir: Clodforwn di O Arglwydd da Dy fawredd di mor hynod yw |
Thy throne has been forever, Lord God, Before the making of stars of seas; Thou art eternally a living God, Despite the decease of all kinds of peoples. Nature and time all without concealment, To thy view are clear; From the formation of the sky above, and the earth, Until the great day of their burning. The years of eternity are Present to thee daily; Nothing is old to thy vast view, Great Being, nor anything new. Let heaven and earth give forever to our Lord, Constant, cheerful honour; Intense worship, holy service, And a delightful, eternal song!tr. 2016 Richard B Gillion |
|